GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH
Cofnodion y derbyniad a gynhaliwyd am 12:15 ar 15 Gorffennaf 2014 yn Nhŷ Hywel
SIARADWYR
Suzy Davies AC (SD) |
|
James Lowman (JL) |
Cymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
Michelle Ovens (MO) |
Dydd Sadwrn Busnesau Bach |
YN BRESENNOL:
Mark Isherwood AC, Keith Davies AC, Tom Davies ar ran David Melding AC, cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS), Y Gynghrair Siopau Gwledig, Cymdeithas y Llyfrwerthwyr, Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd, Cymdeithas Masnachwyr Beicio, National Hairdressers Federation, a manwerthwyr siopau bach o bob rhan o Gymru.
YMDDIHEURIADAU:
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd)
1. CYFLWYNIAD
Ar ran Janet Finch-Saunders AC, croesawodd SD bawb a oedd yn bresennol i dderbyniad blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol. Cyflwynodd JL ac MO a fyddai’n rhoi cyflwyniad ar lwyddiant y sector cyfleustra a busnesau bach yng Nghymru.
Wedyn rhoddodd SD gyflwyniad i’r rhai a oedd yn bresennol, gan dynnu sylw at y rôl y mae manwerthwyr annibynnol yn ei chwarae yn economi a chymdeithas Cymru, a sut y gall manwerthwyr gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol yng Nghaerdydd ac ymgysylltu â’u Haelodau Cynulliad.
2. CYFLWYNIAD GAN JL
Rhoddodd JL o ACS gyflwyniad ar lwyddiant y sector cyfleustra yng Nghymru. Tynnodd sylw at y ffaith fod y sector cyfleustra’n cyfrannu mwy na 22,000 o swyddi yng Nghymru a bod y sector wedi cynyddu o 5% yn 2013 yn unig.
Wedyn, trafododd JL ddyfodol y stryd fawr yng Nghymru, gan sôn am eu perthnasedd i siopau bach sy’n aml yn ceisio sefydlu eu busnesau ar y stryd fawr. Nododd fod y Grŵp wedi trafod adfywio canol trefi yn flaenorol a diolchodd i’r Grŵp am ei gefnogaeth wrth hyrwyddo hyn.
Wedyn, tynnodd JL sylw at yr heriau sy’n wynebu’r sector cyfleustra yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys camau gweithredu sy’n deillio o’r adolygiad o godi tâl o 5c am fagiau siopa yng Nghymru, gwrthwynebu’r cynllun cofrestru ar gyfer manwerthwyr tybaco ac amcanion iechyd y cyhoedd.
3. CYFLWYNIAD GAN MO
Rhoddodd MO o Dydd Sadwrn Busnesau Bach gyflwyniad ar ei lwyddiant yng Nghymru yn 2013, a’r cynlluniau ar gyfer Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn 2014. Nododd fod bron i 50% o ddefnyddwyr yn ymwybodol o’r diwrnod yn 2013 a bod bron i £0.5bn wedi ei wario gan ddefnyddwyr mewn busnesau bach.
Wedyn, trafododd MO y cynlluniau ar gyfer lansiad 2014. Dywedodd y bydd Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn gweithio gyda sefydliadau ac entrepreneuriaid lleol i roi cymorth i fusnesau bach, ac yn hyrwyddo’r diwrnod o amgylch y wlad i godi ymwybyddiaeth o’r dyddiad. Wedyn, tynnodd MO sylw at Busnes Bach 100, a fydd yn hyrwyddo un busnes bach y dydd yn y 100 diwrnod hyd at y lansiad ac anogodd fanwerthwyr yng Nghymru i wneud cais.
4. DIWEDD
Daeth SD â’r derbyniad i ben.